Episodios

  • Ceredigion; Gwasanaethau Cyhoeddus; Gwennan Evans, Cyngor Ceredigion
    May 22 2025
    Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n gweinyddu sir Ceredigion, Cymru ers y 1af o Ebrill 1996. Cyn hynny roedd Ceredigion yn ddosbarth dan weinyddiaeth Cyngor Sir Dyfed ac yn cael ei weinyddu yn lleol gan Gyngor Dosbarth Ceredigion. Lleolir pencadlys y Cyngor yn Aberaeron ac Aberystwyth.

    Ceredigion County Council is the governing body for the county of Ceredigion, since 1996 one of the unitary authorities of Wales. The council's main offices are in Aberaeron and Aberystwyth.
    Más Menos
    16 m
  • Ceredigion; Iechyd a Gofal; Mererid Jones
    Mar 19 2025
    Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio gydag oedolion a phlant. Maent yn gweld plant sydd â nifer o anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu gan gynnwys problemau deall a defnyddio iaith; anawsterau gyda synau lleferydd; atal dweud; ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol. Efallai y byddwn hefyd yn gweithio gyda babanod a phlant ag anawsterau llyncu. Rydym hefyd yn gweithio gydag oedolion sydd ag anhawster cyfathrebu a / neu lyncu. Gall hyn fod o ganlyniad i salwch a gafwyd (strôc / anaf trawmatig i'r ymennydd), salwch cynyddol (clefyd Parkinson, Sglerosis Ymledol, MND, a dementia), problemau llais, canser y pen a'r gwddf neu dysgwch. Gydag anawsterau llyncu, rydym yn cynnal asesiadau arbenigol ac yn cynnig cyngor ar leoli, technegau bwydo ac addasu diet a hylifau. Maent yn gweithio'n agos gyda teuluoedd, staff gofal cymdeithasol, ysgolion a lleoliadau cyn ysgol i gyflawni'r canlyniad gorau.
    Más Menos
    21 m
  • Gwynedd; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Sioned Young, Mwydro
    Nov 22 2024
    Mae Mwydro yn gwmni Darlunio Digidol a sylfaenir gan Sioned Young o Gaernarfon yn 2019. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn dylunio GIFs i gyfryngau cymdeithasol, ac mae casgliad GIFs Cymraeg Mwydro wedi eu gweld dros 250 miliwn o weithiau. Mae gwaith Mwydro hefyd yn cynnwys Gweithdai i Fusnesau, Comisiynau Dylunio, a dysgu plant a phobl hyd a lled Cymru i ddylunio GIFs iaith Gymraeg eu hunain.
    Más Menos
    31 m
  • Gwynedd; Aled Jones, Cymen
    Nov 22 2024
    Mae cwmni cyfieithu Cymen wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf ers dros 30 mlynedd ac rydyn ni’n un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar Cymru. Rydyn ni wedi ennill ein henw da oherwydd ansawdd a phrydlondeb ein gwaith. Mae gennym ni dîm ymroddedig o gyfieithwyr sydd ar dân eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.
    Más Menos
    46 m
  • Sir Fôn; Tim Lloyd, Camu i'r Copa
    Nov 20 2024
    Cychwynnodd y cwmni fel hobi dau ffrind gyda blynyddoedd o brofiad mewn trefniadaeth chwaraeon yn 2011 ac yn cyflwyno a threfnu cannoedd o ddigwyddiadau chwaraeon ac awyr agored newydd sbon er mwynhad cannoedd o filoedd o gyfranogwyr gan ddefnyddio pobl, adnoddau a deunyddiau lleol lle bynnag bo hynny’n bosib.
    Más Menos
    16 m
  • Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Esyllt Roberts, Yr Orsaf
    Nov 20 2024
    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
    Más Menos
    11 m
  • Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Llio Wyn, Yr Orsaf
    Nov 20 2024
    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
    Más Menos
    18 m
  • Sir Gâr; Laura Evans, Rural Advisor
    Nov 20 2024
    Wedi ei sefydlu yn 2021, mae Rural Advisor yn dîm arbenigol o ymgynghorwyr, syrfewyr siartredig a chynghorwyr, sy’n arbenigo mewn darparu cyngor i fusnesau gwledig. Maent yn gweithio ar y cyd i gynnig yr atebion a'r cyngor gorau i unigolion a’u busnesau. Lleolir y tîm o’u cartrefi ar draws Cymru a Swydd Henffordd yn Lloegr.
    Más Menos
    15 m
adbl_web_global_use_to_activate_T1_webcro805_stickypopup