Episodios

  • Yr Ewro's, Wimbeldon, Sboncen, Ralio a Taith Cymru i Siapan
    Jun 30 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Nic Parry, Rhiannon Sim a Carl Roberts sy'n trafod yr Ewro's, Wimbeldon, taith y Llewod gan gynnwys yr anaf i Tomos Williams - Lauren Jenkins sydd a'r diweddara i ni o Awstralia, Sboncen a llwyddiant Joel Makin, Ralio, a sgwrs gyda Rhys Williams, Pennaeth Masnachol Undeb Rygbi Cymru cyn y daith i Siapan.

    Más Menos
    22 m
  • Y Panel Chwaraeon - Y Llewod, Cymru yn Siapan, Yr Ewros, Tenis, Syrffio ac F1
    Jun 27 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Lowri Roberts, Gareth Rhys Owen a Mike Davies, yn trafod faint o ddiddordeb sydd yn nhaith Y Llewod a chyn lleied o Gymry yn y garfan; Gobeithion tîm rygbi Cymru yn Siapan; Cyffro'r Ewros wrth i dîm merched Cymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf; Edrych mlaen i Bencampwriaeth Tenis Wimbledon; Camp y syrffiwr ifanc o Awstralia, Hughie Vaughan; Ydi ffilm "F1" Brad Pitt yn mynd i roi hwb i'r gamp?

    Más Menos
    17 m
  • Y Panel Chwaraeon - Dartiau, Ewro 2025, Y Llewod, Tenis a Phêl-droed
    Jun 23 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gabriella Jukes, Steffan Leonard a Gareth Roberts, yn trafod Dartiau; Ewro 2025; Taith Y Llewod; Tenis; Yr Adar Gleision; Trosglwyddiadau'r haf; a dathliadau cofiadwy!

    Más Menos
    16 m
  • Pêl-droed a'r Llewod yn Nulyn
    Jun 20 2025

    Lauren Jenkins, Billy McBryde a Gareth Rhys Owen sy'n trafod y diweddara' o'r byd chwaraeon gyda Dewi Llwyd; Carfan bêl-droed merched Cymru'n paratoi ar gyfer yr Ewros, a'r Llewod yn chwarae heno'n erbyn Ariannin yn Nulyn cyn cychwyn ar eu taith i Awstralia.

    Más Menos
    15 m
  • Y Panel Chwaraeon - Athletau, Dartiau, Pêl-droed a Rygbi
    Jun 16 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Anwen Jones, Geraint Cynan a Cennydd Davies, yn trafod camp Dewi Griffiths fu'n fuddugol yn y ras Y Dyn v Ceffyl; Cwpan Dartiau Y Byd; Carfan Menywod Cymru ar gyfer Ewro 2025; Oes unrhywun yn poeni am gystadleuaeth Cwpan Y Byd i Glybiau?; Y Llewod v Yr Ariannin a'r daith i Awstralia; a brodyr a chwiorydd o fyd y campau.

    Más Menos
    17 m
  • Y Panel Chwaraeon, pêl-droed, rhifau crysau a neidio â pholyn.
    Jun 13 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Llinos Lee, Dafydd Pritchard a Gareth Blainey sy'n trafod canlyniad Cymru yn erbyn Gwlad Belg, rhifau crysau pel droed, neidio â pholyn a tim pel droed menywod Cymru dros 60.

    Más Menos
    14 m
  • Y Panel Chwaraeon - Tenis, Pêl-droed, Dartiau a Rygbi
    Jun 9 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Heledd Anna, Cennydd Davies a Daniel Thomas yn trafod Rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored Ffrainc; Gêm bêl-droed tîm dynion Cymru yn erbyn Gwlad Belg; Ydi Aaron Ramsey am fynd i Mecsico?; Caneuon teras pêl-droed; Merched sy'n rhoi'r gorau i chwaraeon yn eu harddegau; Cwpan Dartiau y Byd yn dechrau; Ydi gwobrau chwaraewyr rygbi y flwyddyn yn Uwch-Gynghreiriau Lloegr yn cael digon o sylw?; A ble mae'r bwyd gorau mewn stadia chwaraeon?

    Más Menos
    16 m
  • Y Panel Chwaraeon - Pêl-droed, Dartiau a Sboncen
    Jun 6 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Ffion Eluned Owen, Gwion Samson a Carl Roberts yn trafod gêm bêl-droed tîm dynion Cymru yn erbyn Liechtenstein; edrych mlaen i ymgyrch menywod Cymru yn yr Ewros yn Swistir; Anthem Genedlaethol Liechtenstein; Cwpan y Byd y dartiau; a llwyddiant y Cymro Joel Makin wrth iddo gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaethau Agored Sboncen Prydain.

    Más Menos
    13 m